Croeso i Glwb Seiclo Rhuthun.Clwb sydd wedi ei leoli ynghanol harddwch Dyffryn Clwyd yn Sir Ddinbych,Gogledd Cymru. Rydym yn annog seiclwyr o phob gallu, oedran a rhyw, rydym yn gefnogol i pob math o feicio.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig reidiau dydd Sul hir mewn tair lefel gallu, gan gwmpasu 40-60 milltir gyda reid Gymdeithasol fyrrach o tua 20 milltir; reidiau Cymdeithasol dydd Mercher a reidiau nos Iau yn ystod yr haf. Rydym yn trefnu rhai reidiau hirach yn yr haf ac yn cefnogi digwyddiadau beicio lleol eraill. Yn ystod misoedd y gaeaf rydym yn cynnig sesiynau tyrbo dan do i’r aelodau. Rydym yn cwrdd yn Rhuthun ar Sgwar Sant Pedr ynghanol y dref, ger Tŵr y Cloc. Am fwy o fanylion ewch i Dudalen teithiau Gwelwch yma.
Cinio Blynyddol/Noson Gwobrwyo - bydd y clwb yn trefnu swper/gwobrwyo ar gyfer yr aelodau, yn arferol mewn tafarn,gwesty neu bwyty iw gynal tua cyfnod y Nadolig.
CC-Cyfarfod Cyffredinol Bydd y clwb yn cynal cyfarfod yn flynyddol i drafod gweithgareddau ac ethol swyddogion, cynhelir y cyfarfod yng Nghanolfan. Hamdden Llanfwrog Rhuthun, LL15 1LE.
Mae gan y clwb dudalen Facebook ar gyfer aelodau sydd yn dymuno rhanu gwybodaeth am deithiau a gweithgareddau or byd seiclo sydd o ddiddordeb i`w cyd aelodau yn y clwb Gallwch ymaelodi ar grwp yma.Gallwch ymaelodi ar grwp yma. Mae yn grwp sy`n agored i`r cyhoedd