Mae Clwb Seiclo Rhuthun yn trefnu reidiau grwp ar y ffordd, fel a gwelir ar y canlynol ac yn trefnu Rasus yn Erbyn y Clock (REC) dros gyfnod yr haf.
Rydym yn anelu at 'Ddechrau gyda`n gilydd, Reidio gyda`n gilydd a Gorffen gyda`n Gilydd.’'
Rydym yn cwrdd yn Rhuthun ar Sgwar Sant Pedr ynghanol y dref, ger Tŵr y Cloc, LL15 1AA.
Rydym yn anog aelodau I gofrestru ymlaen llaw os ydyn am ymuno ar un o`r reidiau.Bu rhaid arwyddo ar “Ride With GPS”(gweler y manylion isod).Byddan yn atgoffa yr aelodaeth ar ebost ychydig ddyddiau ymlaen llaw ac bydd manylion y daith wedi argraffu ar GPS. Mae hyn yn hwyluso trefnu grwpiau yn ol eu maint ac hefyd trefnu arweinydd i bob grwp.
Reidiau Hir y Sul (cychwyn yn brydlon am 9 yb) Sgwar Sant Pedr, Bu grwpiau wedi rhanu i dri dosbarth yn ol eu gallu, 40- 60 milltir ar fapiau GPS ar gyfer pob grwp.
Yn arferol mae grwp B yn cyflawni cyfartaledd o 11-13 mya (+seibiant !) yn ddibynol ar nifer o elltydd ac bydd neb yn cael gadael ar ol.
Yn arferol mae y grwp CANOLOG yn cyflawni cyfartaledd o 13-15 m.y.a gyda llai o seibiant.
Yn arferol mae grwp A yn cyflawni 15-17 m.y.a dros daith hirach.
Oherwydd y tirlun bydd pob taith yn cyflawni tua 3,000 i 5,000 troedfedd o ddringo, wedi`r cyfan dyma Gymru !er fod 3 taith gwahanol ar fynd bydd modd cyfarfod tua haner ffordd mewn caffi, bydd teithiau yn parhau am 4-5 awr.
Reidiau Cymdeithasol y Sul (cychwyn am 10 yb) cyfarfod yn Sgwar Sant Pedr Ger Twr y Clock, parhau am tua 2awr gyda pellter tua 20 milltir,i orffen mewn caffi lleol tua 12 o gloch. Bydd cyfeiriad y llwybrau i`w drafod ar y diwrnod gan ystyried gallu yr aelodau i ddringo elltydd! Mae`n bwysig fod pawb yn mynd ar gyflymdra i siwtio yr aelod arafach sy`n pob grwp.
O dro I dro mae y clwb yn trefnu teithiau hir ar y Sul ( yn arferol Sul olau y Mis drwy gydol yr Haf ) Weithiau bydd teithiau yn cychwyn o lefydd gwahanol ee Betws-y-Coed ar gyfer ardal Eryri, neu I gyfarfod a Clybiau eraill ee Reidiau Dibynedd.
Ar Ddydd Mercher (cychwyn am 10 yb) cyfarfod yn Sgwar Sant PedrEto mae`n arferol I gael tri grwp ,yn ddibynol ar y tywydd yn bennaf, mae amrywiaeth i gael yn nol y gallu , Y grwp arafach yn cyflawni cyfartaledd 10-12 m.y.a ac grwp canolog falle 12-14 mya ac yna criw eitha cyflym yn gynt wedyn. Eto mae yn ddyletswydd i bob grwp i ofalu am yr un olaf yn y criw.
Bydd digon o ddringo falle tua 1500- 2500 troedfedd ne fwy, ambell waith yn heriol ond cymdeithasol hefyd. Yn arferol anelu i fod yn nol i`r dref erbyn 12 o gloch yb
Gweithgareddau gyda`r nos Yn ystod yr Haf (ers cychwyn Ebrill 2022) mae reidwyr cyflym galluog yn ymarfer reidio ar ffurf “chaingang” a gweithgareddau tebyg.Yn y Gaeaf mae aelodau yn ymarfer ar feiciau tyrbo ,yn ddiweddar trwy ddefnyddio “Zoom” ar lein. Os oes diddordeb gallwch ebostio am fanylion. turbo@ruthin.cc
Ras yn Erbyn y Clock (TT)
O 2022 ymlaen nid yw Clwb Seiclo Rhuthun yn gyfrifol am y dull yma o rasio, yn hytrach mae clwb Newydd wedi ffurfio sef “Vale of Clwyd Time Trials Club (VoCTTC)
Gallwch ymaelodi gyda y clwb newydd yma am £10 (VoCTTC) mae cyfle I aelodau Clwb Seiclo Rhuthun brofi y gamp cyn ymaelodi (3 gwaith )
Wedi ymuno gyda y clwb(VoCTTC) bydd dyletswydd ar yr aelodau i helpu i gynal y digwyddiadau, bydd hyfforddiant ar gael.
Mae`n bosib i wirfoddolwyr nad ydynt yn aelodau oVoCTTC gynig helpllaw ond bu rhaid derbyn hyfforddiant yn y gamp.
Ar y funud , mae CSR yn gysylltiedig gyda`r math yma o rasio felly mae bosib cystadlu yn y gamp pan bu clwbiau lleol yn cynal gweithgareddau or fath,megis Clwb Caer, Wrecsam a Llandrillo yn Rhos ayb.
Mae ystod eang o bellteroedd ar gael yn y gamp yn cynwys 5 milltir, 9milltir,10milltir,18 milltir 27 milltir, 37 milltir, 50 milltir dros dirlun amrywiol.Yn arferol mae rasus lleol yn dechrau a gorffen ger Dinbych. Bydd y tymor yn dechrau yn Ebrill ac mae cyfle “dewch I drio “ar gael sef y ras 5 milltir a ras dringo elltydd. Cyfle da I aelodau roi cynig ar y gamp.
Am fwy o fanylion am VoCTTC gallwch ddod o hyd iddynt ar Facebook. Yma.
Mae canlyniadau'r gynghrair Yma.
Reidiwch gyda GPS
Mae y Clwb hefyd gyda aelodaeth cysylltiedig gyda “Ride with GPS” mae pob aelod yn rhydd i ddefnyddio llyfrgell llawn o lwybrau lleol. Wrth ymaelodi a CSR mae aelodaeth cysylltiedig a RWGPS yn rhad ac am ddim.Mae hyn yn caniatau defnydd lawrlwytho mapiau, cynllunio mapiau tro wrth dro ayb,hefyd mae posib defnyddio app RWGPS are eich ffon clyfar.Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i unrhyw un sydd ddim yn gyfarwydd ar ardal.
Dyma engraifft o lwybrau beicio lleol Llyfrgell y ClwbRydym yn crwydro yr ardal yn aml, ond mae digon o amrywiaeth o lwybrau ar gael weithiau yn ddibynol ar gyfeiriad gwynt neu rhagolygon glaw a gallu yr aelodau yn factor hefyd!
Dyma reid nodweddiadol y grwp “llai cyflym “ ddydd Mercher I Prion Tua 20 milltir gyda 1,200 troedfedd o ddringo
Grwp B y Sul I RhylTua 46 milltir gyda 2,250 troedfedd o ddringo
Grwp B a Grwp canolog I BalaTua 52 milltir gyda 3,860 troedfedd o ddringo
Grwp A y Sul I LangollenTua 51 Milltir gyda 4,100 troedfedd o ddringo
Syniadau eraill
Fel Clwb rydym yn agored I syniadau gan yr aelodaeth ( a rhai sydd heb ymaelodi) ar gyfer gweithgareddau beicio a teithiau newydd fasa o ddiddordeb.Yn y gorffenol rydym wedi trefnu teithiau dramor ac hefyd wedi ymuno a clwbiau eraill i wahanol ardaloedd yn nes at adre ee i ardal mynyddig Eryri i brofi dringfeydd heriol.Os oes ganddoch syniadau o`r fath i ni drafod, Ebost i ni os gwelwch yn dda.
Mae rhai aelodau eisioes yn beicio mynydd a hefyd yn reidio beic graean ar ffyrdd llai llyfn cefn gwlad,rhai eraill yn hoff o reidiau heriol hir,yn aml yn llwytho y beic a tent a.y.b Grwp Facebook.