Poeni am fethu dal i fynu?
Mae reidiau gwahanol i siwtio pob gallu, felly byddwch yn ffyddiog bydd reid i siwtio eich gallu chi. Beth am roi cynig ar un hawdd i gychwyn yna mynd am un mwy heriol tro nesa.
Mae reidiau ar y Sul yn eitha heriol ac yn hirach, ond bu cyfle cyn hynnu,i brofi eich gallu i reidio y pellter/a dringo cyn ymuno.
Mae`n hanfodol ir aelodau ddeallt fod neb yn cael ei gadael ar ol, felly peidiwch a poeni os ydych methu dal i fynu.
Ai criw o ddynion canol-oed mewn lycra?
Mae aelodaeth y clwb yn cychwyn o 18 oed i fynu ac mae rhai yn frwdfrydig a galluog yn y gamp.Mae gan y clwb gymysgedd iach o ddynion a merched ac rydym yn hyrwyddo hynu yn gyson.Mae rhai o`r aelodau hun sydd wedi ymddeol yn ysbrydoliaeth o ran ei ffitrwydd i weddill yr aelodaeth.Ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn.aelodau ieuenctid o dan 18 oed oherwydd nid oes swyddogion yn gymwys fel arweinwyr, sef hynu mae croeso i rai ifanc ymuno ar reid os yw rhiant neu ofalwr/wraig sydd yn aelod yn barod i dderbyn y cyfrifoldeb drostynt gan hefyd fod yn sicir o`i gallu a ffitrwydd i gwblhau reid.
A oes angen beic drud ?
Rydym yn gofyn i aelodau fod yn siwr fod eu beic yn saff ac yn ffit i`r ffordd. Mae beic o unrhyw fath yn iawn i`r rediau cymdeithasol.Ar gyfer teithiau hirach y Sul bu angen beic ffordd (neu beic rasio) neu byddai`n anodd dal i fynnu gyda`r grwpiau ar y blaen. Mae beiciau graean (gravel bike) yn boblogaedd yn ogystal a beic Hybrid, serch hynu mae yn bwysig fod level ffitrwydd yn uchel ar y beics yma.Mae beic graean yn addas iawn ar gyfer rhai o`n ffyrdd cefn gwlad!
Rwyf wedi cwblhau reidiau sportives ac eisiau ymarfer mynd yn gynt/ a phellach
Rydych yn y lle iawn- mae llawer o aelodau yn reidio sportives yn yr haf ac hefyd gydol y flwyddyn yn cwblhau teithiau 50-60 milltir ne fwy. Mae cynlluniau ar y gweill i redeg reidiau hir o fewn y clwb yn ystod yr Haf .Mae teithiau hirach y Sul yn yn dda iawn i gynal ffitrwydd parhaol.
Rwyf wedi arfer gwneud triathlon, a fydd cyflymder reid clwb rhy araf I gynal fy ffitrwydd at y gamp ?
Mae safon y grwp A yn gyson sydyn a pellter o 60 milltir(sy`n nodweddiadol)yn fyddiol iawn at ffitrwydd a dygnwch ac yn gyfle gwych I gystadlu yn erbyn aelodau sydd yn dringo yn gryf dros y bryniau.
A ydych yn glwb beicio fforff yn unig , neu oes cyfle i feicio mynydd yn ogystal?
Yn wreiddiol dechreuodd y clwb fel clwb ffordd oherwydd dyna aeth a bri y sefydlwyr.Erbyn hyn rydym yn sefydlu cyfleon I feicio oddiar y ffordd o fewn y clwb, ymarfer dros y gaeaf dros y bryniau syfrdanol o fewn y Sir,byddan yn trefnu wahanol weithgareddau gyda cefnogaeth gan ein haelodau, neu gallwch ddefnyddio y clwb I gysylltu ag eraill sydd ar un diddordebau I gynal reids eich hunain.
Rwy`n hoff o reidio gyda fy mhlant sydd yn llai na 18 oed ac yn brofiadol ar ei beics. Beth am y rheol o dan 18.
Rydym yn gysylltiedig i Beicio Cymru ac yn awyddus i ddilyn ei canllawiau ar gyfer arwain grwpiau yn saff,boed i oedolion neu ieuenctid.Er mwyn lles plant fyddai y clwb angen sicrhau fod aelodau a swyddogion yn gymwys fel hyfforddwyr ac arweinwyr .Ni all y clwb sicrhau y cymwysterau hyn ar hyn o bryd felly ni allwn dderbyn aelodaeth i ieuenctid o dan 18.
Serch hynu rydym yn caniatau ieuenctid cyn belled fod rhiant neu oedolyn yn derbyn cyfrifoldeb ac yn abl i gwblhau y teithiau.
Pam dyliwn i ymuno a clwb seiclo I reidio fy meic?
Nid oedd clwb seiclo wedi bod yn Rhuthun ers tro maith.Cyn ffurfio y clwb arferai unigolion fynd allan ar y ffyrdd ei hunain neu mewn grwpiau bach o ffrindiau.Erbyn hyn mae tro ar fyd, mae na frwdfrydedd ac edrych `mlaen at gymdeithasu gyda beicwyr or un meddylfryd ,y sgwrs, y paneidiau, y teimlad o fod yn rhan o rhywbeth mwy! Cael ymaelodi a Beicio Cymru ac y CTC.
Hefyd mae seiclo fel rhan o glwb yn gyrru unigolion i fynd yn gynt, yn uwch ac cyflawni cymaint mwy fel aelod. Mae darganfod llwybrau newydd yn haws fel aelod o glwb beicio,heb fynd ar goll!
Ydych yn Rasio?
Rydym yn trefnu rasio yn Rasio yn erbyn y Clock o dan rheolaeth y corff cenedlaethol y gamp.Hefyd mae cystadleuaeth blynyddol Dringo Elltydd. Search hynu nid ydym yn trefnu cystadlaethau eraill ar y ffordd.Nid oes traciau rasio addas yn Rhuthun ar y funud.
Mae rhai aelodau talentog iawn yn perthyn i`r clwb,y mwyaf enwog Doug Dailey MBE yn cyn bencampwr y Deyrnas Gyfynol ac enillwr Ras ffordd Prydain!
A ydych yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol?
Mae CC y clwb yn flynyddol ac Cinio Nadolig a reid Nadolig yn uchafbwyntiau rydym yn falch ohonynt,weithiau yn darfod mewn tafarn! Mae posib trefnu unrhyw achlysur ar gyfer ein haelodau.